Digwyddiad

ARDDANGOSFA: Diwrnod Cofio'r Holocost 2020 - Arddangosfa Fflamau Coffa

Dyddiad: Dydd Llun 27 Ionawr 2020 i ddydd Mercher 29 Ionawr 2020

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Mae Diwrnod Cofio'r Holocost 2020 yn nodi 75 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau. Er mwyn coffáu'r dyddiad nodedig hwn, cynhaliodd Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost brosiect celfyddydol ledled y DU ar gyfer sefydliadau a grwpiau cymunedol. Mae pob Fflam Goffa yn coffáu 75 mlynedd ers diwedd yr Holocost – yr hil-laddiad a gyflawnwyd yn erbyn yr Iddewon yn Ewrop gan y Natsïaid a'u cydweithredwyr. Ym mis Tachwedd 2019, cyfarfu panel o arbenigwyr i adolygu'r holl weithiau celf. Dewisodd y panel 75 o Fflamau Coffa sydd bellach wedi cael eu dwyn ynghyd i ffurfio arddangosfa genedlaethol. Mae gweithiau celf eraill a grëwyd drwy'r prosiect yng Nghymru wedi’u cynnwys mewn arddangosfa arbennig yn y Senedd mewn partneriaeth a Llywodraeth Cymru.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr