Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Rhaglen fentora Cymru gyfan Llwybrau BAME i mewn i Fywyd Cyhoeddus– ‘ymgyrchu dros newid cymdeithasol’

Dyddiad: Dydd Iau 6 Chwefror 2020

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Bydd y prosiect Llwybrau BAME i mewn i Fywyd Cyhoeddus yn cynnig llwybr i bobl o leiafrifoedd ethnig/BAME ddatblygu sgiliau gwleidyddol a chael mwy o effaith ar fywyd cyhoeddus. Mae’r cynllun yn cynnig mentora unigol gyda phobl hynod ddylanwadol, yn ogystal â sesiynau hyfforddiant wedi’u teilwra yn lleoliadau Llywodraeth Cymru. Bydd y digwyddiad hwn yn lansio’r rhaglen, ac yn gyfle i fentoriaid a chyfranogwyr gwrdd am y tro cyntaf. Bydd hefyd yn rhoi trosolwg o’r sefyllfa cydraddoldeb hiliol yn sectorau cyhoeddus a gwleidyddol Cymru, ac yn dangos yr amryw lwybrau a chymorth ar gyfer mynd i mewn i fywyd cyhoeddus.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr