Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Cystadleuaeth Sgiliau Cymru: Cystadleuaeth Ynni Adnewyddadwy

Dyddiad: Dydd Llun 5 Chwefror 2024

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru. Maen rhoi cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid yng Nghymru herio, meincnodi a gwella eu sgiliau, a hynny drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau. Maer cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gynnal gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr. Mae'n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sy'n cyd-fynd â WorldSkills ac anghenion economi Cymru. Mae'r gystadleuaeth ynni adnewyddadwy yn gystadleuaeth tîm. Y nod yw ymchwilio i sut y gall technolegau amrywiol oddi mewn ir sector technoleg werdd ddarparu ynni ar gyfer cartrefi a diwydiant; er enghraifft, tyrbinau gwynt, solar ffotofoltig, dyfeisiau llanw, tyrbinau dŵr a hydrogen. Mae cwmpas y gystadleuaeth yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ac ymarfer amrywiaeth o sgiliau a'r wybodaeth sydd ei hangen i greu datrysiad egni cyfannol ar gyfer Aber-feddau, sef tref arfordirol ffuglennol sydd wedii lleoli ar benrhyn gorllewinol Gogledd Cymru.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd ar Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr