Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Diwrnod Gofal, Voices from Care

Dyddiad: Dydd Mercher 21 Chwefror 2024

Amser: 12.00 - 14.00

Lleoliad: Yr Oriel, Y Senedd

Disgrifiad: 16 Chwefror eleni ywr Diwrnod Gofal blynyddol, pan fydd sefydliadau ledled Cymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon yn dathlu ein cymuned sydd â phrofiad o ofal gydan gilydd ac yn ymgyrchu ar faterion o bwys iddynt. Un or themâu eleni yw pwysigrwydd adeilad system ofal â chariad yn ganolog iddi. Mae ein pobl ifanc wedi dyfeisior syniad o greu sgarff anferthol â 7,000 o sgwariau un ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yn y system ofal yng Nghymru, ai lapio o amgylch mannau cyhoeddus y Senedd, i symboleiddio ein Senedd genedlaethol a phawb ynddi yn cofleidio pob plentyn yn y system ofal. Byddwn yn creu posteri syml i esbonio beth yw diben y sgarff ofal, a phan fydd y Senedd yn ôl or toriad yr wythnos ganlynol, byddwn yn dod â grŵp bach o bobl ar y dydd Mawrth neur dydd Mercher i gael sgyrsiau anffurfiol gydag Aelodau or Senedd, fel cyfle i ddysgu am rai or materion rydym yn ymgyrchu amdanynt.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd ar Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr