Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Dyddiad: Dydd Mercher 6 Mawrth 2024

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Bwriad y digwyddiad hwn yw codi ymwybyddiaeth o rôl menywod mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol, a dathlu hynny, drwy drafodaethau panel, gweithdai a siaradwyr gwadd, o dan thema #cymellcynhwysiant 2024. Nod y digwyddiad hwn yw cydnabod rôl a chyfraniad menywod ym maes gwleidyddiaeth yng Nghymru, yn ogystal â hwyluso sgyrsiau am sut y gall y genhedlaeth nesaf o fenywod ifanc yng Nghymru, o bob cefndir, gael eu hysbrydoli i wneud eu cyfraniadau eu hunain i fywyd cyhoeddus a gwleidyddol. Nod gyffredinol y digwyddiad hwn fydd: Tynnu sylw at hanes yr hyn y mae menywod wedii gyflawni mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru (gan gynnwys y rhai o gefndiroedd amrywiol) Annog trafodaeth am sut y gallwn ennyn diddordeb pobl ifanc, yn enwedig merched, mewn gwleidyddiaeth.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd ar Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr