Digwyddiad

DIGWYDDIAD: RenewableUK Cymru Derbyniad ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Dyddiad: Dydd Mawrth 23 Ebrill 2024

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Neaudd, Senedd

Disgrifiad: Derbyniad ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu ynni gwynt ar y tir ac ar y môr. Maer derbyniad yn cynnig llwyfan i drafod syniadau, gofyn cwestiynau perthnasol a chydweithio i sicrhau llwyddiant prosiectau syn arwain at dwf economaidd yng Nghymru, a hynny gan ymdrin â newid hinsawdd a meithrin ffyniant cymdeithasol. Bydd cyfle i glywed yn uniongyrchol am y cynnydd hyd yma, yn ogystal ag am y datrysiadau sydd eu hangen arnom i ymateb i heriau o ran cynllunio, rhwydweithiaur grid a buddsoddiad mewn sgiliau i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru erbyn 2035.

Agored i’r cyhoedd: Maer digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan in horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr