Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Creu dyfodol cyfansoddiadol Cymru
Dyddiad: Dydd Mercher 22 Mai 2024
Amser: 09.00 - 20.00
Lleoliad: Neuadd, Senedd
Disgrifiad: Ers 1999, pan sefydlwyd y Cynulliad, neu Senedd Cymru erbyn hyn, hyd heddiw ar Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, mae trafodaeth ynghylch dyfodol cyfansoddiadol Cymru wedi bod ar yr agenda wleidyddol yn rheolaidd. O safbwynt ymarferol, maer trafodaethau hyn wedi amrywion fawr o ran i ba raddau y maent wedi cynnwys dinasyddion. Yn y cyd-destun hwn, ac o ystyried y diddordeb ehangach sydd gan y Senedd mewn cryfhau democratiaeth Cymru, maer digwyddiad hwn ar arddangosfa gysylltiedig yn tynnu sylw at botensial dulliau creadigol a gweledol i gynnwys dinasyddion mewn trafodaethau am newid cyfansoddiadol yng Nghymru.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd ar Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr