Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Ymadael â’r UE: y Cytundeb Ymadael, y cyfnod pontio a’r trafodaethau am y berthynas yn y dyfodol

Cylch gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 28 Mehefin 2016. Ar 15 Medi 2016 cytunwyd ar ei gylch gwaith fel a ganlyn:

  1. archwilio'r goblygiadau i Gymru oherwydd i'r Deyrnas Unedig benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd a sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu yn ystod y broses adael, mewn unrhyw berthynas newydd â'r UE ac yn nhrefniadau gwledydd y DU ar ôl gadael ar gyfer materion perthnasol o ran polisi, cyllid a deddfwriaeth;
  2. cydlynu gweithgarwch ar draws pwyllgorau'r Senedd mewn perthynas â phwynt (a) uchod;
  3. cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheolau Sefydlog 21.8 i 21.11, gyda newid canlyniadol i gylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol;
  4. ystyried unrhyw fater arall, gan gynnwys deddfwriaeth, a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.

Aelodau'r Pwyllgor