Ymgynghoriad

Ymchwiliad Dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd Bwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad dilynol i sgiliau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM)

Cylch gorchwyl:

  • Pa effaith y mae strategaeth Llywodraeth Cymru Gwyddoniaeth i Gymru a'r Cynllun Cyflenwi wedi'i gael ar sgiliau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yng Nghymru?
  • Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran mynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Dysgu i'r agenda STEM yn 2011, gan gynnwys:
    • Digonolrwydd y ddarpariaeth o sgiliau STEM mewn ysgolion, colegau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch a dysgu'n seiliedig ar waith (gan gynnwys prentisiaethau);
    • Gwerth am arian o'r cyllid ychwanegol i gefnogi a hyrwyddo sgiliau STEM ac a yw'r cyflenwad presennol o sgiliau STEM yn diwallu anghenion marchnad lafur Cymru;
    • Y cyflenwad o weithwyr addysg proffesiynol a all addysgu pynciau STEM ac effaith Grantiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon a'r Rhaglen Athrawon Graddedig ar recriwtio athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol STEM;
    • Effeithiolrwydd y cysylltiadau addysg a busnes rhwng sefydliadau addysg a chyflogwyr STEM.
  • A oes unrhyw gynnydd wedi'i wneud o ran mynd i'r afael â'r safbwyntiau negyddol a'r stereoteip ar sail rhyw sy'n gysylltiedig â STEM a hyrwyddo arfer da i annog menywod i feithrin sgiliau STEM a dilyn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â STEM.
  • Pa gynnydd sydd wedi'i wneud ar ddysgu sgiliau STEM drwy addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg?

 

Datgelu Gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth ar gael yn http://www.cynulliadcymru.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Sicrhewch eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.