Ymgynghoriad

Newidiadau arfaethedig i'r Penderfyniad ynghylch y cymorth i Aelodau'r Pumed Cynulliad

Diben yr ymgynghoriad

Newidiadau arfaethedig i'r Penderfyniad ynghylch y cymorth i Aelodau'r Pumed Cynulliad – Gorffennaf 2014

 

Fel rhan o'i baratoadau ar gyfer y Pumed Cynulliad mae'r Bwrdd Taliadau annibynnol yn adolygu pob agwedd ar ei Benderfyniad. Rydym yn bwriadu cwblhau'r gwaith hwn erbyn gwanwyn 2015, flwyddyn cyn yr Etholiad Cyffredinol yng Nghymru, fel bod darpar ymgeiswyr yn gwybod yn union pa gymorth fydd ar gael iddynt os cânt eu hethol.

Mae ein gwaith wedi'i rannu'n bedair ffrwd:

  • Taliadau - cyflogau;
  • Taliadau - pensiwn;
  • Cymorth i Aelodau'r Cynulliad, a
  • Lwfansau.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnwys cyfres o gynigion o dan y ffrwd Cymorth i Aelodau'r Cynulliad. Nid yw'n cynnwys cyflogau staff cymorth, sy'n cael eu pennu'n flynyddol, ac sydd heb eu pennu hyd yma ar gyfer 2015-16.

Bydd gan Aelodau presennol y Cynulliad, a'u staff, ddiddordeb amlwg yn ein cynigion ond gallant hefyd fod yn berthnasol i lawer y tu allan i'r Cynulliad. Rydym yn croesawu ymatebion i'r ymgynghoriad hwn gan unrhyw fudiad neu unigolyn.

26 Medi 2014 yw'r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus.