Ymgynghoriad

Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru). I gynorthwyo ei waith, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn am y pwnc hwn.

Cylch Gorchwyl

Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:

Ystyried—

  • Egwyddorion cyffredinol Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth –
  • Wrth ddod i farn ar y mater hwn, efallai y byddwch am ystyried Rhannau unigol o’r Bil:
    • Rhan 2: Awdurdod Cyllid Cymru - gan gynnwys sefydlu corff cyhoeddus newydd; aelodaeth o fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru; ei phrif swyddogaeth, dirprwyo swyddogaethau a chyfarwyddyd; pwerau statudol Awdurdod Cyllid Cymru; gwybodaeth warchodedig am drethdalwr; a threfniadaeth a threfniadau llywodraethu.
    • Rhan 3: Ffurflenni treth, ymholiadau ac asesiadau- yn cynnwys dyletswyddau trethdalwyr i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel; ffurflenni treth; ymholiadau Awdurdod Cyllid Cymru ac atgyfeirio at dribiwnlys yn ystod ymholiad; penderfyniadau ac asesiadau Awdurdod Cyllid Cymru; hawlio am ryddhad treth mewn achos o asesu gormodol neu dreth a ordalwyd;
    • Rhan 4: Pwerau Ymchwilio Awdurdod Cyllid Cymru  – gan gynnwys pwerau Awdurdod Cyllid Cymru i wneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol; cyfyngiadau ar hysbysiadau gwybodaeth; archwilio mangreoedd ac eiddo arall.
    • Rhan 5: Cosbau  - gan gynnwys cosbau am fethu â chyflwyno ffurflenni treth, anghywirdebau yn ymwneud â threfniadau cadw cofnodion a threfniadau talu’n ôl, ac yn ymwneud ag ymchwiliadau; talu cosbau; ac atodol;
    • Rhan 6: Llog – yn cynnwys llog ar symiau sy’n daladwy i Awdurdod Cyllid Cymru a ganddi; a chyfraddau llog;
    • Rhan 7: Talu a gorfodi  - gan gynnwys talu ac ardystio dyled; ac adfer;
    • Rhan 8: Adolygiadau ac apelau - gan gynnwys penderfyniadau apeladwy; adolygiadau; apelau; canlyniadau adolygiadau ac apelau; a chytundebau setlo;
    • Rhan 9: Ymchwilio i droseddau  - gan gynnwys pwerau i ymchwilio i droseddau; enillion troseddau; a rheoleiddio pwerau ymchwilio;
    • Rhan 10: Darpariaethau terfynol - yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol; rheoliadau; dyroddi hysbysiadau; a rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill i Awdurdod Cyllid Cymru.
  • unrhyw rwystrau posibl o ran rhoi’r darpariaethau hyn ar waith ac a yw’r Bil yn eu hystyried;
  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil
  • goblygiadau ariannol y Bil ( fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol); 
  • priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth  (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol).

 

Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad

Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â buddiant yn y pwnc hwn.

Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad. Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau/cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor y gwanwyn.

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 8 Medi 2015. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y  canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

Datgelu gwybodaeth

Mae gan y Cynulliad bolisi ynghylch datgelu gwybodaeth. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.  Neu, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r Clerc (Leanne Hatcher 0300 200 6343).

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid (Pedwerydd Cynulliad)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565