Ymgynghoriad

Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC.

 

Cylch gorchwyl

 

Ymchwiliad yn trafod goblygiadau adolygiad Siarter y BBC i Gymru, gan ganolbwyntio ar y materion a ganlyn:

 

  • Y ddarpariaeth o ran gwasanaethau’r BBC yng Nghymru yn y dyfodol, a hynny yn y Gymraeg a’r Saesneg;
  • Trefniadau cyllido, llywodraethu ac atebolrwydd y BBC ar hyn o bryd ac yn y dyfodol mewn perthynas â Chymru;
  • Dyfodol S4C, gan gynnwys ei threfniadau cyllido, gweithredu a llywodraethu a’r gwasanaeth y mae’n ei ddarparu;
  • Sut y mae diddordebau Cymru yn cael eu cynrychioli yn ystod y broses adnewyddu.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo’i waith o ystyried y cylch gorchwyl. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod i lunio eich ymateb. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau/cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod y tymor yma.

 

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 30 Hydref 2015.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn

 

Datgelu gwybodaeth

 

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn http://www.assembly.wales/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx.

Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCCLLL@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565