Ymgynghoriad

Ymchwiliad i’r Blaenoriaethau ar gyfer dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i ystyried a yw seilwaith rheilffyrdd Cymru yn diwallu anghenion teithwyr a busnesau wrth i'r galw gynyddu. Rhwng mis Tachwedd 2015 a mis Ionawr 2016 cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth

 

Y Cefndir

 

Pwerau a datganoli

Yn wahanol i'r Alban, nid yw cynllunio a darparu seilwaith rheilffyrdd yn faes sydd wedi'i ddatganoli yng Nghymru.  Er bod gan Lywodraeth Cymru bwerau i ariannu buddsoddiad yn y seilwaith, Llywodraeth y DU sy'n bennaf gyfrifol am ariannu Network Rail, a datblygiad y rhwydwaith yng Nghymru.  Fodd bynnag, dywedwyd ym Mhapur Gorchymyn Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth y DU nad oedd unrhyw gonsensws ar ddatganoli pwerau ym maes seilwaith ac felly nad oes unrhyw gynlluniau i ddatganoli'r pwerau hyn ar hyn o bryd.

 

Paratoadau ar gyfer cyfnod rheoli 6 a thu hwnt

Gosodir blaenoriaethau a chyllid y diwydiant rheilffyrdd mewn "Cyfnodau Rheoli" pum mlynedd.  Mae'r paratoadau yn cael eu harwain gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd gynt) drwy broses adolygu'r cyfnod, sy'n adolygu allbynnau a chyllid Network Rail ar gyfer pob cyfnod rheoli.

 

Datblygir cynigion ar gyfer y seilwaith gan Network Rail i ddechrau. Mae'n nodi dewisiadau i gyllidwyr sy'n gweithio gyda'r diwydiant rheilffyrdd a chyllidwyr fel Llywodraeth Cymru. Mae'r diwydiant rheilffyrdd yn defnyddio'r gwaith hwn wrth baratoi Cynllun Cychwynnol y Diwydiant, ac yn y pendraw mae'n arwain at gyhoeddi Manyleb Allbwn Lefel Uchel (HLOS) a Datganiad o'r Cyllid sydd Ar Gael (SOFA) gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth. Mae'r paratoadau ar gyfer Cyfnod Rheoli 6 (2019-2024) ar y gweill.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am farn y cyhoedd ar faterion sy'n berthnasol i'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru er mwyn llywio penderfyniadau ar seilwaith rheilffyrdd Cymru yng Nghyfnod Rheoli 6 a thu hwnt.

 

Cylch Gorchwyl a Materion Allweddol

 

Roedd cwmpas yr ymchwiliad yn cynnwys:

  • Effeithiolrwydd gweithredol y seilwaith rheilffyrdd presennol ar gyfer teithwyr a nwyddau o fewn Cymru a blaenoriaethau ar gyfer datblygu seilwaith Cymru, yn enwedig yng Nghyfnod Rheoli 6 (2019-24) a thu hwnt;
  • Y berthynas rhwng rhwydweithiau rheilffyrdd Cymru a Lloegr o ran cynllunio, rheoli, cynnal a chadw/adnewyddu a gwella, a sut y dylid cydgysylltu'r pethau hyn er budd teithwyr a defnyddwyr sy'n cludo nwyddau ar ddwy ochr y ffin;
  • Effeithiolrwydd y dull presennol o gynllunio seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, yn ogystal â'r dull presennol o gyflawni gwaith cynnal a chadw/adnewyddu a gwneud gwelliannau, ac a yw'n sicrhau'r canlyniadau gorau i deithwyr a defnyddwyr sy'n cludo nwyddau yng Nghymru.

 

Gofynnwyd i'r cyhoedd am eu barn ar y pwyntiau a ganlyn:

  • Blaenoriaethau lefel uchel ar gyfer datblygu seilwaith y rheilffyrdd i ddarparu'r capasiti a'r cysylltedd angenrheidiol i gefnogi lles cymdeithasol ac economaidd Cymru;
  • I ba raddau y mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys y blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol, ac adroddiad y Tasglu Gweinidogol ar Drafnidiaeth yng Ngogledd Cymru, yn diwallu anghenion Cymru;
  • Sut mae datblygiad seilwaith rheilffyrdd Lloegr, a'r modd y defnyddir y seilwaith hwnnw, yn effeithio ar Gymru, ac i'r gwrthwyneb;
  • Effaith datblygiadau allweddol arfaethedig yn Lloegr ar Gymru, gan gynnwys rheilffyrdd cyflym, trydaneiddio, Pwerdy'r Gogledd/Trafnidiaeth ar gyfer y Gogledd a datganoli cyfrifoldeb dros y rheilffyrdd yn ehangach o fewn Lloegr;
  • Beth yw'r ffordd orau i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â datblygiadau seilwaith yn Lloegr, yn ogystal â datblygiadau ym maes gwasanaethau teithwyr a chludo nwyddau sy'n defnyddio'r rhwydwaith, a dylanwadu ar y datblygiadau hyn;
  • A yw'r broses adolygu gyfnodol yn diwallu anghenion Cymru ac yn ystyried anghenion teithwyr a defnyddwyr sy'n cludo nwyddau yng Nghymru, a sut y dylid datblygu hyn;
  • Effeithiolrwydd Llwybr Network Rail yng Nghymru ac a yw'r dull o reoli, cynnal a chadw, adnewyddu a gwella'r rhwydwaith yn effeithiol wrth sicrhau gwerth am arian, capasiti a chyflymder y gwasanaeth, sicrhau ei fod yn ddibynadwy ac yn rhedeg yn ddigon aml, a sicrhau y gellir mynd i'r afael â phroblemau teithio i deithwyr a defnyddwyr sy'n cludo nwyddau yng Nghymru;
  • Y ffaith nad yw cyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi'i ddatganoli. Y manteision, anfanteision, cyfleoedd a risgiau a allai fod yn gysylltiedig â datganoli.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn http://www.assembly.wales/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Menter a Busnes
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddBusnes@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565