Ymgynghoriad

Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17

Diben yr ymgynghoriad

Ym mis Ionawr 2016, bu'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn craffu ar Weinidogion ynghylch y cynigion a oedd yn berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor at bob Gweinidog yn gofyn am wybodaeth cyn y cyfarfodydd hynny. Mae copïau o'r llythyrau hyn, ynghyd ag ymatebion y Gweinidogion, i'w gweld isod:

 

Mae copïau o'r llythyrau a gafwyd gan randdeiliaid mewn perthynas â chynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gael isod:

 

Ar ôl craffu ar gynigion y gyllideb, ysgrifennodd y Pwyllgor at bob Gweinidog yn nodi’i gasgliadau. Mae’r llythyrau hyn hefyd i’w gweld isod.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn llywio ei waith o ran craffu ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17. Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hefyd yn berthnasol i'n gwaith craffu.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCCLLL@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565