Ymgynghoriad

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig: yr Adolygiad o Siarter y BBC

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ystyried Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r BBC er mwyn gwneud y rôl ymgynghorol ar gyfer Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol yn y broses o adolygu Siarter y BBC yn un ffurfiol.

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Byddai’r Pwyllgor yn croesawu safbwyntiau ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig erbyn dydd Iau 25 Chwefror 2016. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

 Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau/cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod y tymor yma.

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn http://www.assembly.wales/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx.

Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCCLLL@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565