Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar y goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Gofynodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn am farn rhanddeiliaid ar y goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Croesawodd y Pwyllgor sylwadau ar y cwestiynau canlynol:

 

  • Beth ddylai fod yn brif flaenoriaeth i Gymru cyn i Lywodraeth y DU weithredu Erthygl 50 (sy'n cychwyn y broses ffurfiol o adael yr UE)?
  • A allwch chi roi enghreifftiau o lle y gallai dull arfaethedig y DU i drosglwyddo'r acquis communautaire (y corff o gyfraith Ewropeaidd), drwy Bil y Diddymu Mawr, i gyfraith ddomestig gael goblygiadau penodol i Gymru?

 

Datgelu gwybodaeth

 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sicrhau eu bod wedi ystyried polisi'r Cynulliad ar ddatgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddMADY@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565