Ymgynghoriad

Ymchwiliad i Lobïo

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i'r trefniadau presennol o ran lobïo yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Mae'r trefniadau wedi bodoli ers 2013, ac ymrwymwyd i adolygu'r trefniadau hyn yn gyson i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas yng nghyd-destun proses ddeinamig datganoli. Mae'r ymchwiliad hwn yn arbennig o amserol o ystyried cyflwyno deddfwriaeth yn San Steffan a'r Alban. Bwriad ymchwiliad y Pwyllgor yw penderfynu a ydyw’n glir beth y mae’r dinesydd eisiau ei wybod o ran lobïo ac os felly, a yw’r trefniadau yng Nghymru ar hyn o bryd yn darparu digon o wybodaeth, hygyrchedd a thryloywder?

 

Er mwyn cynorthwyo â'i ymchwiliad, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar a yw trefniadau presennol y Cynulliad o ran lobïo yn ddigon cadarn ac addas i'r diben ar gyfer y Pumed Cynulliad, ac yn benodol:

 

  • A oes angen newid?
  • Beth mae'r term 'lobïo' yn ei olygu i chi?
  • Sut mae lobïo'n cael ei reoleiddio ar hyn o bryd?
  • A ydych yn ystyried eich hun yn lobïwr? Sut mae lobïo'n cael ei reoleiddio yn eich sector chi ar hyn o bryd? Hynny yw, er enghraifft, os ydych yn fusnes preifat, yn y trydydd sector neu'n sefydliad proffesiynol.
  • A ydych wedi cael unrhyw broblemau â'r trefniadau presennol?
  • A oes unrhyw feysydd yr ydych yn ystyried nad ydynt yn cael eu rheoleiddio yn y maes hwn sy'n rhoi atebolrwydd ac enw da llywodraethu yng Nghymru mewn perygl?
  • Beth ydych chi'n ei gredu fyddai effaith cyflwyno trefniadau newydd o ran lobïo?

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae'r Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Gymraeg neu'n Saesneg.

 

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau i dystion sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig, (nid ar ffurf dogfen PDF, yn ddelfrydol) i SeneddSafonau@Cynulliad.Cymru

 

Dylai unrhyw sylwadau ddod i law erbyn 31 Ionawr 2017.  Efallai na fydd yn bosibl ystyried unrhyw ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael yma. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.  Neu, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r Clerc (0300 200 6565).

Dogfennau ategol