Ymgynghoriad

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).

 

Mae Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn darparu ar gyfer fframwaith statudol newydd er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae hyn yn disodli'r ddeddfwriaeth bresennol ynghylch anghenion addysgol arbennig (AAA) ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau a/neu anableddau dysgu sydd mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.

 

Mae’r Bil hefyd yn cynnal Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC), sy’n gwneud darpariaeth i blant, eu rhieni a phobl ifanc apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir gan yr awdurdod lleol mewn perthynas ag ADY y plentyn neu’r person ifanc, gan ei ailenwi’n Dribiwnlys Addysg Cymru.

 

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys crynodeb o'r Bil, ar gael ar flog y Gwasanaeth Ymchwil.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael yma; gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Fel arall, mae copi caled o'r polisi hwn ar gael drwy gysylltu â'r Clerc.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo gyda'r ymchwiliad. Hoffai’r Pwyllgor gael ymatebion gan unigolion a sefydliadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg.

 

Ni ddylai tystiolaeth ysgrifenedig fod yn fwy na phum ochr o bapur A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylid canolbwyntio ar y materion a nodir uchod. Dylid hefyd darllen y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Dylai unrhyw sylwadau gyrraedd erbyn 3 Mawrth 2017.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Arolwg gan y Pwyllgor

Yn rhan o'r broses ymgynghori, mae'r Pwyllgor hefyd wedi lansio arolwg ar gyfer plant a phobl ifanc a theuluoedd, rhieni a gofalwyr er mwyn gofyn am eu barn ynglŷn â chynigion y Bil.

 

Arolwg ar gyfer plant a phobl ifanc

Arolwg ar gyfer teuluoedd, rhieni a gofalwyr

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565