Ymgynghoriad

Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar gael ar dudalen y Bil ar y wefan.

 

Cylch gorchwyl

Dyma gylch gorchwyl y Pwyllgor ar gyfer ei ymchwiliad:

 

Ystyried –

  • egwyddorion cyffredinol y Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni bwriad datganedig y polisi, sef diogelu cyflenwad tai cymdeithasol rhag dirywiad pellach yn wyneb y galw uchel a’r prinder tai,
  • darpariaethau’r Bil mewn perthynas â’r canlynol:
    • y cyfyngiad ar arfer yr hawl i brynu a’r hawl i gaffael (adrannau 2 i 5);
    • diddymu’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael (adran 6);
    • diddymu’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud grantiau gostyngiad (adran 7);
    • y ddyletswydd i roi gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid,
  • unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r darpariaethau hyn ar waith, ac a yw’r Bil yn ystyried y rhwystrau hyn,
  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil, a
  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).

 

Canllawiau

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad. Gweler y canllawiau i rai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau.

 

Polisi dwyieithrwydd

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, Cymraeg a Saesneg, neu’r ddwy. Os na chyflwynir gwybodaeth yn ddwyieithog, ni fydd yn cael ei chyfieithu, a chaiff ei chyhoeddi yn yr iaith y cafodd ei chyflwyno ynddi yn unig. Disgwyliwn i sefydliadau weithredu eu safonau a’u cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn yr hysbysiad preifatrwydd. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Dogfennau ategol