Ymgynghoriad
Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth, 1 Awst 2017 a Dydd Gwener, 15 Medi 2017
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- CECYP_01 Tros Gynnal Children and NYAS Cymru PDF 50 KB
- CECYP_02 Fabric (Saesneg yn unig) PDF 113 KB
- CECYP_03 Rheolwyr Timau Troseddu Ieuenctid Cymru(Saesneg yn unig) PDF 50 KB
- CECYP_04 Barnardos PDF 53 KB
- CECYP_05 Comisiynydd Plant Cymru (Saesneg yn unig) PDF 190 KB
- CECYP_06 Plant yng Nghymru(Saesneg yn unig) PDF 198 KB
- CECYP_07 Y Rhwydwaith Maethu(Saesneg yn unig) PDF 156 KB
- CECYP_08 Cyngor Sir Gâr(Saesneg yn unig) PDF 51 KB
- CECYP_09 Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru(Saesneg yn unig) PDF 42 KB
- CECYP_10 Y grŵp polisi iechyd meddwl plant a phobl ifanc(Saesneg yn unig) PDF 355 KB
- CECYP_11 Unigolyn(Saesneg yn unig) PDF 54 KB
- CECYP_12 Unigolyn(Saesneg yn unig) PDF 45 KB
- CECYP_13 Unigolyn(Saesneg yn unig) PDF 44 KB
- CECYP_14 Y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy’n Derbyn Gofal(Saesneg yn unig) PDF 145 KB
- CECYP_15 ADSS, WLGA a Gwasanaeth Mabwysiaudu Cenedlaethol (Saesneg yn unig) PDF 271 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol yn ceisio gwybodaeth i lywio ei ymchwiliad i
blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.
Cefndir
Mae'r Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus wedi cytuno i gynnal ymchwiliad yn edrych ar wasanaethau cyhoeddus ar
gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal (sydd wedi, neu sydd wrthi'n
'derbyn gofal' gan awdurdod lleol o dan Ddeddf Plant 1989 a Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant 2014) o fewn ei gylch gwaith o ystyried unrhyw fater
sy’n ymwneud â pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y caiff adnoddau eu
defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Cylch Gorchwyl
Mae'r Pwyllgor yn
bwriadu gwneud hwn yn ymchwiliad hirdymor sy'n rhychwantu'r Pumed Cynulliad.
Mae'r Pwyllgor wedi nodi pedwar maes cychwynnol a amlinellir isod:
- Gwariant a gwerth am arian gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer plant a
phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal;
- Effeithiolrwydd trefniadau rhianta corfforaethol awdurdodau lleol;
- Gwerth am arian ac effeithiolrwydd y trefniadau presennol o ran
lleoliadau gofal;
- Gwerth am arian y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer plant sydd wedi
bod mewn gofal.
Mae'r Pwyllgor yn bwriadu dechrau'r ymchwiliad hwn drwy
ystyried y cyntaf o'r meysydd hyn, a byddai'n croesawu eich barn ar y
cwestiynau penodol isod:
- Y gost gyffredinol a gwerth am arian yr ystod o wasanaethau cyhoeddus
sydd â’r nod o wella canlyniadau i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn
gofal;
- A yw’r canlyniadau a ddymuna Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl
ifanc sydd wedi bod mewn gofal yn cael eu cyflawni gan y lefelau presennol
o wariant cyhoeddus;
- A yw maint y gwariant sy'n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd
wedi bod mewn gofal yn ddigon tryloyw ar draws yr amrywiaeth o wasanaethau
cyhoeddus;
- A yw cyrff cyhoeddus wedi gosod digon o bwyslais ar ddull gwariant
ataliol ar gyfer yr hirdymor, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol (Cymru) 2015, i sicrhau y ceir y buddiannau gorau posibl o’r
gwariant cyhoeddus ar gyfer y grŵp hwn o blant.
Y dyddiad cau ar gyfer
ymatebion yw 15 Medi 2017. Dylech anfon eich sylwadau i:
SeneddArchwilio@Cynulliad.Cymru
Cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad (PDF 1MB), mae'r Pwyllgor yn gofyn i
ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi
neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn
ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn
ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod
wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i
sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
i dystion sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau.
Datgelu gwybodaeth
Sicrhewch eich bod wedi
ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cyfrifion Cyhoeddus
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddArchwilio@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565