Ymgynghoriad

Ymchwiliad i Ddulliau gweithredu lleol ar gyfer lleihau tlodi: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i ymagweddau lleol tuag at leihau tlodi: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, cytunodd y Pwyllgor i adolygu ei gylch gorchwyl a chanolbwyntio ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r cylch gorchwyl wedi’i ddiweddaru ar gael ar dudalen yr ymchwiliad.

Cylch gorchwyl:

Dyma’r cylch gorchwyl gwreiddiol:

  • archwilio sut y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn targedu gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru;
  • asesu ansawdd y dystiolaeth a ddefnyddir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus wrth ddatblygu cynlluniau llesiant lleol o ran anghenion a phrofiadau pobl sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys sut y mae byrddau gwasanaethau lleol yn gweithredu o ran diflaniad sy’n nesáu Cymunedau yn Gyntaf;
  • ystyried sut y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn mynd i’r afael, yn benodol, â thlodi gwledig, fel rhan o’r gwaith o ddatblygu eu cynlluniau Llesiant
  • archwilio a deall profiadau sefydliadau (cyhoeddus, preifat a thrydydd sector) ac unigolion yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau llesiant ac effaith bosibl mwy o weithio rhanbarthol yn y dyfodol.

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCymunedau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565