Ymgynghoriad

Yr Ardoll Brentisiaethau – gwaith dilynol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi ysgrifennu at y rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth i’r ymchwiliad y llynedd – ac unigolion eraill sydd wedi mynegi diddordeb yn y maes hwn ers hynny – i asesu effaith yr ardoll. Rydym hefyd wedi gwahodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i rannu profiad Llywodraeth Cymru. Ein bwriad yw cyhoeddi adroddiad byr yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ym mis Mai 2018.

Hefyd, gofynnwn ichi strwythuro’ch ymateb yn ôl y tri phwynt a ganlyn:

  • yr effaith ar gyflogwyr yng Nghymru yn sgil cyflwyno’r ardoll;
  • unrhyw bryderon hyd yn hyn o ran effaith yr ardoll a’r broses ar gyfer ei chyflwyno; ac
  • argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru neu sefydliadau eraill ar y mater hwn.

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565