Ymgynghoriad
Fframweithiau cyffredin y DU ar amaethyddiaeth a’r amgylchedd
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 18 Ebrill 2018 a Dydd Mercher, 16 Mai 2018
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- UK 01 Dr Viviane Gravey - Queen's University Belfast (Saesneg yn unig) PDF 285 KB Gweld fel HTML (1) 38 KB
- UK 02 Gwarchod Cathod (Saesneg yn unig) PDF 109 KB Gweld fel HTML (2) 16 KB
- UK 03 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru PDF 400 KB Gweld fel HTML (3) 149 KB
- UK 04 Ffederasiwn Bwyd a Diod (Saesneg yn unig) PDF 117 KB Gweld fel HTML (4) 12 KB
- UK 05 Purfa Penfro Valero (Saesneg yn unig) PDF 59 KB Gweld fel HTML (5) 34 KB
- UK 06 Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (Saesneg yn unig) PDF 148 KB Gweld fel HTML (6) 11 KB
- UK 07 Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru (RTPI Cymru) (Saesneg yn unig) PDF 116 KB Gweld fel HTML (7) 13 KB
- UK 08 Ymddiriedolaeth y Cŵn (Saesneg yn unig) PDF 361 KB Gweld fel HTML (8) 73 KB
- UK 09 Swyddfa Iechyd Anifeiliaid Genedlaethol (NOAH) (Saesneg yn unig) PDF 237 KB Gweld fel HTML (9) 14 KB
- UK 10 CLA Cymru (Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cyfyngedig) (Saesneg yn unig) PDF 267 KB Gweld fel HTML (10) 39 KB
- UK 11 RSPB Cymru (Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar) (Saesneg yn unig) PDF 278 KB Gweld fel HTML (11) 39 KB
- UK 12 Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) (Saesneg yn unig) PDF 164 KB Gweld fel HTML (12) 21 KB
- UK 13 Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) (Saesneg yn unig) PDF 300 KB Gweld fel HTML (13) 23 KB
- UK 14 Comisiynydd y Gymraeg PDF 311 KB
- UK 15 Cyswllt Amgylchedd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 286 KB Gweld fel HTML (15) 60 KB
- UK 16 Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru (Saesneg yn unig) PDF 115 KB Gweld fel HTML (16) 22 KB
Diben yr ymgynghoriad
Cynhaliodd y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ymchwiliad i fframweithiau
cyffredin y DU sy'n ofynnol yn absenoldeb cyfraith yr UE pan fyddwn yn gadael
yr UE.
Ar 9 Mawrth, cyhoeddodd
Llywodraeth y DU ei asesiad dros dro o ble y byddai angen fframweithiau
cyffredin y DU ar ôl Brexit mewn ardaloedd o gyfraith yr UE o fewn cymhwysedd
datganoledig. Mae llawer o'r meysydd polisi yn dod o fewn cylch gwaith y
Pwyllgor. Mae'r ddogfen yn disgrifio ei ddiben fel a ganlyn:
Dogfen weithredol yw hwn, a luniwyd i hysbysu
ymgysylltiad rhwng swyddogion yn y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru
a'r gwasanaeth sifil yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n nodi asesiad dros dro
Llywodraeth y DU o feysydd o gyfraith yr UE sy'n croesi â chymhwysedd
datganoledig ym mhob gweinyddiaeth ddatganoledig. Mae'n bosibl y bydd safleoedd
polisi a nodir yn y ddogfen hon yn newid yn dilyn dadansoddiad pellach, gan
gynnwys ar farchnad fewnol y DU, ac wrth i drafodaethau rhwng y DU a
llywodraethau datganoledig fynd rhagddynt. Gan fod y setliadau datganoledig yn
anghymesur, mae gwahanol bwerau'n berthnasol i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Mae'r asesiad yn rhoi 155 o bwerau i mewn i 3 categori: y
rheini y gallai fod angen fframweithiau deddfwriaethol arnynt; fframweithiau
anneddfwriaethol; neu ddim gweithredu pellach.
Gwnaethom edrych ar:
- Ym mha feysydd polisi, o fewn cylch
gwaith y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, y
mae angen fframweithiau cyffredin deddfwriaethol ac anneddfwriaethol?
Ydy'r asesiad
dros dro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn nodi dull priodol ac a
yw'n gyflawn? A oes gennych unrhyw bryderon penodol ynglŷn â'r
categori arfaethedig?
- Sut y dylid datblygu a gweithredu'r fframweithiau deddfwriaethol ac
anneddfwriaethol?
- Pa mor argymhellol y dylai'r fframweithiau cyffredin fod a faint o
ddisgresiwn y dylai pob gweinyddiaeth ei gael o fewn y fframweithiau?
Nodyn: Mae cylch gwaith y Pwyllgor yn cynnwys: newid yn
yr hinsawdd; ynni; rheoli cyfoeth naturiol; cynllunio; lles anifeiliaid ac
amaethyddiaeth.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565