Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Ymgynghoriad

Ymchwiliad i amrywiaeth ym maes llywodraeth leol

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i amrywiaeth ym maes llywodraeth leol.

Dyma gylch gorchwyl y Pwyllgor ar gyfer ei ymchwiliad:

  • Deall pwysigrwydd amrywiaeth ymhlith cynghorwyr lleol, gan gynnwys yr effaith ar ymgysylltu â'r cyhoedd, trafod a gwneud penderfyniadau.
  • Deall y prif rwystrau i ddenu cronfa fwy amrywiol o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.
  • Trafod meysydd arloesedd ac arfer da a all helpu i gynyddu amrywiaeth ym maes llywodraeth leol.
  • Trafod effaith bosibl y cynigion ym Mhapur Gwyrdd Llywodraeth Cymru, Cryfhau Llywodraeth Leol i gynyddu amrywiaeth yn siambrau'r Cyngor

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Holiadur ar-lein

Fel arall, os byddai’n well gennych ymateb i’n holiadur ar-lein, sy’n gofyn cwestiynau manylach am lywodraeth leol yn eich cymuned a’ch profiadau chi, cliciwch ar y linc isod.

https://www.surveymonkey.co.uk/r/SYLMG7P

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pierhead Street
Caerdydd
CF99 1NA

Email: SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
Ffôn: 0300 200 6565

 

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Helpu