Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i llygredd microblastigau. Dywedwch wrthym beth ydych chi'n ei feddwl mewn ymateb i'r cwestiynau canlynol. Mae croeso i chi gyfeirio at unrhyw faterion eraill yn eich ymateb:
Anfonwch eich sylwadau atom drwy gyfrwng e-bost at SeneddNHAMG@cynulliad.cymru. Gofynnwn am yr holl gyfraniadau cyn 21 Medi 2018. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion ac yn penderfynu sut i symud ymlaen â'r ymchwiliad.
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn bod dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu gwybodaeth
Gwnewch yn siwr eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pierhead Street
Caerdydd
CF99 1NA
Email: SeneddNHAMG@cynulliad.cymru
Ffôn: 0300 200 6565