Ymgynghoriad

Gwasanaethau endosgopi

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Tudalen yr ymgynghoriad

Byddai'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn croesawu eich barn ar wasanaethau endosgopi yng Nghymru.

Cylch gorchwyl:

Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn galw am dystiolaeth ynghylch y camau sydd angen eu cymryd i gyflawni newid sylweddol yn y cyfraddau goroesi ar gyfer canser y coluddyn yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y canlynol:

  • Diagnosis cynharach, yn benodol cyflwyno'r Prawf Imiwnogemegol Ysgarthol (FIT) i'r rhaglen sgrinio coluddyn a'r newid a gyhoeddwyd yn ddiweddar i'r ystod oedran.
  • Mae capasiti gwasanaeth diagnostig ac amseroedd aros, gan gynnwys i ba raddau y mae cyfyngiadau capasiti yn ysgogi'r argymhelliad i osod y trothwy FIT i gyflwyno i'r rhaglen sgrinio coluddyn ar lefel gymharol ansensitif.
  • Yr atebion hirdymor a chynaliadwy i'r heriau sy'n bodoli o fewn gwasanaethau endosgopi yng Nghymru, gan gynnwys sut mae data ar bwysau staff diagnostig yn cael ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau ynghylch cynllunio'r gweithlu nawr ac yn y dyfodol.
  • Ystyried ymyriadau a datblygiadau diagnosis cynnar eraill, fel cyflwyno profion FIT gan feddygon teulu i gleifion symptomatig er mwyn lleihau'r atgyfeiriad ar gyfer profion diagnostig.
  • Ymdrechion a wneir i gynyddu nifer sy'n cymryd rhan yn rhaglen sgrinio'r coluddyn.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd 5 Tachwedd 2018.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565