Ymgynghoriad

Hawliau Pleidleisio i Garcharorion

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cylch gorchwyl

Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:

  • Dadleuon o blaid ac yn erbyn rhoi'r hawl i rai carcharorion, neu bob un, bleidleisio yn etholiadau Cymru, ac a ellid gwahaniaethu rhwng categorïau gwahanol o garcharor ar sail hyd y ddedfryd, dyddiad rhyddhau disgwyliedig, neu fathau o drosedd;
  • Materion ymarferol, megis cofrestru etholiadol (gan gynnwys cyfeiriad), dull pleidleisio, ymgysylltiad carcharorion â'r broses wleidyddol, rhoi gwybodaeth ac addysg o ran gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth;
  • Materion trawsffiniol oherwydd bod carcharorion o Gymru yn cael eu carcharu yn Lloegr, ac i'r gwrthwyneb.
  • A yw ystyriaethau arbennig yn cynnwys troseddwyr ifanc yn y ddalfa os estynnir yr hawl i bleidleisio i bobl 16 ac 17 oed yn gyffredinol; ac
  • Ymagweddau gwledydd eraill o ran hawl carcharorion i bleidleisio.  

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Bwrdd trafod ar-lein

Hefyd, agorodd y Pwyllgor fwrdd trafod ar-lein ar fudd-daliadau yng Nghymru a sut y gellir eu cyflawni’r well. Mae’r bwrdd trafod wedi cau bellach.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCymunedau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565