Ymgynghoriad

Hepatitis C

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Byddai'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn croesawu eich barn am hepatitis C.

Cylch gorchwyl:

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn galw am dystiolaeth ar y canlynol:

  • Y camau sy'n cael eu cymryd i fodloni gofynion Cylchlythyr Iechyd Cymru (WHC/2017/048) a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017 a chyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd, wedi hynny, i ddileu hepatitis B a hepatitis C fel bygythiadau sylweddol i iechyd y cyhoedd erbyn 2030.
  • Sut y gellir cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol am y feirws hepatitis C.
  • Y cwmpas i gynyddu gweithgarwch cymunedol, e.e. rôl fferyllfeydd cymunedol.
  • Hyfywedd rhaglenni triniaeth yn y tymor hir.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd 3 Ionawr 2019.