Ymgynghoriad

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn ymgymryd ag ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru). Ceir rhagor o fanylion am y Bil a'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef ar dudalen y Bil.

Cylch gorchwyl

I'w ystyried:

  • egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) a’r graddau y bydd yn cyfrannu at wella a diogelu iechyd, gofal a lles poblogaeth Cymru drwy:
    • osod ystyriaethau ansawdd wrth galon pob rhan o’r GIG yng Nghymru,
    • cryfhau llais dinasyddion ar draws gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol,
    • gosod dyletswydd gonestrwydd ar sefydliadau’r GIG, a
    • chryfhau’r trefniadau llywodraethu ar gyfer  Ymddiriedolaethau’r GIG;
  • unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi'r darpariaethau hyn ar waith ac a yw'r Bil yn eu hystyried;
  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil;
  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y'u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol);
  • priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol).

 

Beth am gymryd rhan yn ein harolwg!

Mae’r ymgynghoriad ffurfiol bellach wedi cau. Fodd bynnag, mae dal cyfle i gwblhau ein harolwg byr am y Corff Llais Dinasyddion arfaethedig.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ar y cylch gorchwyl a'r graddau y bydd y Bil yn cyfrannu at wella a diogelu iechyd a llesiant poblogaeth Cymru.

 

Dylai unrhyw dystiolaeth ddod i law erbyn 2 Awst 2019.

 

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig i SeneddIechyd@cynulliad.cymru.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565