Ymgynghoriad

Ymchwiliad i Ansawdd Aer

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig (‘Y Pwyllgor) wedi bwriadu cynnal ymchwiliad i ansawdd aer.

 

Yn anffodus, cafodd gwaith ar yr ymchwiliad hwn ei atal ym mis Ebrill 2020 i alluogi'r Pwyllgor i ganolbwyntio ei waith ar effaith pandemig Covid-19. Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i gyfrannu eu safbwyntiau i’r ymchwiliad hwn.

 

Roedd y gwaith hwn yn cyd-fynd ag ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, Cynllun Aer Glân i Gymru – Awyr Iach, Cymru Iach. Y bwriad oedd i allbwn ymchwiliad y Pwyllgor lywio datblygiad cynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Deddf Aer Glân i Gymru, y disgwylid iddi gael ei chyhoeddi cyn diwedd tymor y Senedd hwn.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am sylwadau ar gynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru a oedd yn ymwneud ag aer glân, fel yr amlinellwyd yn yr ymgynghoriad, Cynllun Aer Glân i Gymru – Awyr Iach, Cymru Iach, gan gynnwys:

  • Pa fylchau neu faterion rheoliadol y bydd angen mynd i’r afael â nhw ar ôl i’r DU ymadael â’r UE? Sut y dylid mynd i'r afael â'r rhain a beth fydd y prif heriau?
  • A yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Deddf Aer Glân yn briodol? Sut y gellir eu gwella? Beth y gellir ei ddysgu o ddulliau deddfwriaethol mewn mannau eraill?
  • Beth yw eich barn am y cynigion rheoliadol mewn perthynas â'r drefn Rheoli Ansawdd Aer Lleol? Beth yw'r prif heriau mewn perthynas â'r dull a awgrymwyd?
  • Beth yw eich barn ar y cynigion rheoliadol sy'n ymwneud â hylosgi domestig (gan gynnwys tân gwyllt/coelcerthi), gadael injan cerbydau yn troi’n segur a Pharthau Aer Glân/Parthau Allyriadau Isel?
  • Beth yw'r prif heriau wrth gyflwyno fframwaith deddfwriaethol ar gyfer ansawdd aer fel y nodir yn y ddogfen ymgynghori?

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

 

Datgelu gwybodaeth

Sicrhewch eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565