Ymgynghoriad
Ymgynghoriad ar y Penderfyniad drafft ar gyfer y Chweched Cynulliad
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 5 Chwefror 2020 a Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2020
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Bwrdd Taliadau annibynnol wedi
cyhoeddi cynigion mewn perthynas â’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched
Cynulliad. Y cynigion yw cam olaf adolygiad cynhwysfawr y Bwrdd o’r tâl a’r
cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau.
Nid yw'r cynigion
yn cynnwys unrhyw gynnydd yn y cyflog sylfaenol ar gyfer Aelodau, heblaw
mynegeio blynyddol yn unol â'r trefniadau cyfredol a newidiadau sydd â'r nod o
leihau rhwystrau i sefyll ar gyfer etholiad, gan gynnwys trefniadau ar gyfer
cymorth ychwanegol i Aelodau ar absenoldeb rhiant.
Gellir
lawrlwytho’r Penderfyniad drafft a’r ddogfen ymgynghori yma: http://www.bwrddtaliadau.cymru/ymgynghoriadau-syn-dal-i-fynd-rhagddynt/
Mae'r Bwrdd yn
gofyn am farn ar y cynigion hyn erbyn 24 Mawrth 2020.
Datgelu
gwybodaeth
Sicrhewch eich
bod wedi ystyried sut y bydd y Bwrdd yn defnyddio'ch gwybodaeth cyn cyflwyno
gwybodaeth i'r Bwrdd. Nodir hyn yn y ddogfen ymgynghori.
Dogfennau ategol
- Y ddogfen ymgynghori PDF 10 MB
- Y Penderfyniad drafft ar gyfer y Chweched Cynulliad PDF 11 MB
- Y Penderfyniad drafft ar gyfer y Chweched Cynulliad - yn dangos y newidiadau – Atodiad* PDF 11 MB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Bwrdd Taliadau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: Taliadau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565