Ymgynghoriad

Capasiti’r Senedd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Sefydlwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ym mis Medi 2019 i ymchwilio i argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ynglŷn â maint y Senedd a sut mae Aelodau'n cael eu hethol.

 

I lywio ei waith ar gapasiti’r Senedd, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad trafod preifat ar 6 Ionawr 2020 gyda phobl a sefydliadau sy’n gweithio'n agos gyda'r Senedd a'i Aelodau.

 

Trafodwyd tri chwestiwn yn y digwyddiad:

 

  1. A oes gan y Senedd y capasiti sydd ei angen arni i gyflawni ei swyddogaethau cynrychioliadol, craffu a deddfwriaethol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol?
  2. A fyddai pethau'n wahanol pe bai gan y Senedd ragor o Aelodau? Os felly, sut?
  3. Os yw’n parhau i fod â 60 Aelod, beth y gallai’r Senedd, ei phwyllgorau, ei Aelodau, ei phleidiau gwleidyddol neu eraill ei wneud yn wahanol er mwyn cynyddu’r capasiti?

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad ar gofnod o'r materion a drafodwyd [PDF, 258KB] rhwng 14 Chwefror 2020 a 20 Ebrill 2020.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Committee on Assembly Electoral Reform
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddDiwygio@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565