Ymgynghoriad

Mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd i:

  • Archwilio sut y mae'r GIG yn asesu manteision posibl unrhyw dechnolegau meddygol newydd neu amgen;
  • Archwilio'r angen i fabwysiadu dulliau mwy cydgysylltiedig o gomisiynu yn y maes hwn, a pha mor ymarferol fyddai gwneud hynny;
  • Archwilio sut y mae GIG Cymru yn ymwneud â'r rhai sydd ynghlwm wrth y gwaith o ddatblygu / cynhyrchu technolegau meddygol newydd;
  • Archwilio'r ffactorau ariannol a all fod yn rhwystr i'r broses o fabwysiadu technolegau meddygol newydd effeithiol, a dulliau arloesol o oresgyn y rhwystrau hyn.

 

Seiliwyd y cylch gorchwyl hwn ar broses ymgynghori a gynhaliodd y Pwyllgor yn hydref 2012 ynghylch cwmpas yr ymchwiliad hwn.

 

Caeodd yr ymgynghoriad ar 18 Hydref 2013.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565