Ymgynghoriad

Ymchwiliad i Gyflog a Thaliadau Uwch Reolwyr

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Ymchwiliad i Gyflog a Thaliadau Uwch Reolwyr

 

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal ymchwiliad i gyflog a thaliadau uwch reolwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Penderfynodd y Pwyllgor gynnal yr ymchwiliad hwn er mwyn ystyried agweddau ar werth am arian cyflog uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus. Nid yw’r Pwyllgor yn bwriadu ystyried cyflogau unigolion, ond yn hytrach sicrhau bod digon o atebolrwydd a thryloywder mewn perthynas â chyflog a thaliadau uwch reolwyr ar draws y sector cyhoeddus.

 

Fel rhan o’r ymchwiliad hwn bydd y Pwyllgor yn ystyried:

 

  • Y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â phennu cyflogau, yn enwedig a yw hon yn briodol ar gyfer sicrhau gwerth am arian ar draws y sector cyhoeddus;
  • Y dull o gytuno ar godiadau cyflog;
  • Tryloywder tâl a gwobrwyon/buddion ee pensiynau neu ffioedd swyddogion canlyniadau;
  • Ansawdd a lefel y wybodaeth gymharol sy’n bodoli ar gyfer cyflog uwch reolwyr ar draws y sector cyhoeddus; a
  • Gwerth sefydlu corff, neu ymestyn trefniadau presennol fel Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, sydd â chylch gwaith o fod â throsolwg o gyflog / taliadau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

 

Dogfennau ategol