Ymgynghoriad

Ymchwiliad i arfer orau mewn prosesau cyllidebol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Gwahoddiad i roi tystiolaeth  – Ymchwiliad i arfer orau mewn prosesau cyllidebol

 

Ar ôl cyhoeddi adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ar Ran 1 o'i gylch gwaith, sef Grymuso a chyfrifoldeb: pwerau ariannol i gryfhau Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Grymuso a chyfrifoldeb: datganoli pŵer ariannol i Gymru. Dyma'r prif bwyntiau yng nghyhoeddiad Llywodraeth y DU:

 

  • Treth incwm: yn amodol ar gynnal refferendwm yng Nghymru, byddai'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn cael y pŵer i amrywio treth incwm ar y gyfradd sylfaenol, uwch ac ychwanegol, gan godi neu ostwng y cyfraddau hyn yr un pryd. Byddai hyn yn golygu na fyddai 10 pwynt canran o bob cyfradd dreth yn y DU bellach yn ddyledus i Lywodraeth y DU ond, yn hytrach, byddai'n ddyledus i Lywodraeth Cymru.
  • Treth dir y dreth stamp: byddai'r dreth tirlenwi yn cael ei datganoli i'r Cynulliad, gyda swm cyfatebol yn cael ei dynnu o'r grant bloc.
  • Ardrethi annomestig (busnes): Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatganoli ardrethi annomestig (busnes) yn llawn. (Er bod Gweinidogion Cymru eisoes yn pennu'r cyfraddau hyn yng Nghymru, o dan y trefniadau presennol nid yw'r refeniw a gynhyrchir yn effeithio'n uniongyrchol ar lefel y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru).
  • Pwerau benthyca cyfalaf: Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn mewn egwyddor y gallai Llywodraeth Cymru gael pwerau benthyca cyfalaf er mwyn buddsoddi mewn seilwaith, ar yr amod bod ffrwd annibynnol a phriodol o refeniw ar gael i dalu'r costau benthyca.
  • Pŵer i'r Cynulliad ddeddfu, gyda chytundeb Llywodraeth y DU, i gyflwyno trethi newydd a chredydau treth cysylltiedig.

 

Yn dilyn hyn, cyhoeddwyd Bil Drafft Cymru ym mis Rhagfyr 2013, a chyflwynwyd Bil Cymru ar 20 Mawrth 2014. Bydd ymchwiliad y Pwyllgor yn ystyried arfer orau mewn prosesau cyllidebol i sicrhau bod prosesau effeithiol ar waith i graffu ar y pwerau ariannol hyn.

Bydd dwy ran i'r ymchwiliad a byddai'n ddefnyddiol pe baech yn ymdrin â'r ddwy ran  wrth ymateb.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad

 

Ystyried:

Rhan 1 - arfer orau mewn prosesau cyllidebol a'r modd y gellir ei gymhwyso yng Nghymru

 

  • Arfer orau ryngwladol ar gyfer atebolrwydd ariannol a phrosesau cyllidebol, yn enwedig mewn gweinyddiaethau datganoledig
  • Cyfleoedd i'r prosesau cyllidebol gynnwys cysyniadau newydd - fel gwariant ataliol, cyllidebau blynyddol llai cyfyngedig, a chyllidebau seiliedig ar raglenni / canlyniadau

 

Rhan 2 - cynllunio gweithdrefnau cyllidebol newydd a'u rhoi ar waith

 

  • Rheolaeth ariannol - amlinellu dulliau cyllidebol o reoli'r pwerau newydd o ran trethi a benthyca, a sut y bydd y rhain yn effeithio ar floc Cymru ac economi Cymru. Yn benodol, sut y caiff argymhellion Comisiwn Holtham eu rhoi ar waith.
  • Rhoi gweithdrefnau cyllidebol newydd ar waith i adlewyrchu'r pwerau ychwanegol.

 

Eich barn chi

 

Hoffai'r Pwyllgor gael eich barn am y meysydd a ganlyn:

 

Rhan 1

 

  • Arfer orau ryngwladol  – beth yw egwyddorion atebolrwydd ariannol?  Sut y mae gwledydd eraill yn sicrhau atebolrwydd ariannol datganoledig gan barhau i fod â rheolaeth ariannol ganolog?  
  • A yw'r pwerau datganoledig wedi'u haddasu ar gyfer setliad datganoli Cymru – gan fod y pwerau ym Mil Cymru wedi'u seilio ar y pwerau yn Neddf yr Alban, a yw hyn yn creu problemau  yng Nghymru na chawsant eu rhagweld?
  • Cysylltu cyllidebau â chanlyniadau. Pa brosesau cyllidebol newydd sydd eu hangen i wella'r cysylltiadau rhwng polisïau, rhaglenni gwariant a chanlyniadau? Sut y byddai modd gwahaniaethau rhwng y canlyniadau a gynhyrchwyd gan Lywodraeth y DU a'r economi fyd-eang a'r canlyniadau a gynhyrchwyd gan bolisïau lleol Llywodraeth Cymru?

 

 

Rhan 2

 

  • Trethi a benthyca - nodwyd y materion hyn yn Adroddiad Holtham; e.e. effaith y grant bloc a'r dulliau o fynegeio addasiadau; sail y threthi datganoledig; diffyg terfyn isaf yn seiliedig ar anghenion;  dim penderfyniad clir ar faterion cydgyfeirio; maint y trethi a gynhyrchir a faint y gellir ei fenthyca yn erbyn yr incwm hwn; ar ba sail y bydd unrhyw drethi newydd yn cael eu codi ac a fyddant yn cael eu seilio ar egwyddorion ynteu reolau?
  • Rheoli risgiau cyllidebol  - pa risgiau cyllidebol ychwanegol sydd ynghlwm wrth y pwerau newydd a sut y caiff y rhain eu monitro a'u rheoli (e.e. sut y caiff diffygion refeniw eu rheoli)?
  • Sut y caiff y prosesau cyllidebol newydd hyn eu gwneud yn dryloyw ac yn ddealladwy  i'r holl randdeiliaid, a sut y gall rhanddeiliaid fod yn rhan o'r broses gyllidebol.
  • Cynllunio cyllideb y DU - sut y mae'r Cynulliad yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a chyrff cyhoeddus eraill o dan y trefniadau newydd; sut y dylid amserlennu'r broses gyllidebol i ateb gofynion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (e.e. adolygiadau o wariant y DU) ?
  • Gweithredu – sut y mae'r Cynulliad yn datganoli pwerau ariannol yn ffurfiol; sut y mae'r Cynulliad yn craffu ar ofynion Llywodraeth Cymru o ran trethi, benthyca a gwariant, ac yn eu cymeradwyo a'u monitro; a sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cymeradwyaeth Trysorlys Ei Mawrhydi ar gyfer pwerau newydd i godi trethi ac i fenthyca, a pha rôl a ddylid ei rhoi i'r Cynulliad wrth gytuno â newidiadau o'r fath.

 

Darparu gwybodaeth i'r Pwyllgor

 

Rydym yn eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor Cyllid, gan ddefnyddio'r cyfeiriad a nodir uchod, erbyn dydd Mercher 21 Mai 2014.

 

Os yw'n bosibl, anfonwch eich ymateb drwy'r e-bost i PwyllgorCyllid@cymru.gov.uk erbyn dydd Mercher 21 Mai 2014.

 

Datgelu Gwybodaeth

Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth i'w weld yma. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Neu, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r Clerc (029 2089 8120).

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid ar gael yma.

Dogfennau ategol