Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar drefniadau pensiwn Aelodaur Cynulliad yn y dyfodol

Diben yr ymgynghoriad

Rhwng nawr a chyhoeddi’r Penderfyniad terfynol ym mis Mai 2015, bydd Y Bwrdd Taliadau yn ymgynghori ag Aelodau’r Cynulliad ar bob agwedd ar eu taliadau. Dyma’r rhan gyntaf o ymgynghoriad dwy ran penodol ar bensiynau, ond yng nghyd-destun taliadau ehangach sy’n ceisio eich barn i’n cynorthwyo i ddylunio cynllun pensiwn modern sy’n unol ag arfer gorau:

 

  • Cam 1: Ymgynghoriad lefel uchel sy’n cynnwys cwestiynau am rai cynigion ac sy’n rhoi amlinelliad bras o’r math o gynllun a allai gael ei gyflwyno; a

 

  • Cam 2: Yn dilyn dadansoddiad o ymatebion i ymgynghoriad cam 1, byddwn yn cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus manwl ar gynllun pensiwn arfaethedig.

 

Mae’r papur ymgynghori hwn, sy’n cynnwys crynodeb o’n cynigion, yn eich gwahodd i gyflwyno eich barn er mwyn llywio ein trafodaethau. Bydd y dystiolaeth a gesglir o’r ymgynghoriad hyn yn cael ei hystyried yn ofalus iawn gan y Bwrdd. Felly, rydym yn annog Aelodau’r Cynulliad, aelodau o Gynllun Pensiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru a phob rhanddeiliad arall, i ymgysylltu â ni. Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Mercher 21 Mai 2014. Dylid anfon ymatebion at Glerc y Bwrdd Taliadau, ac mae ei fanylion cyswllt i’w cael y tu mewn i glawr y ddogfen hon.

 

Datgelu Gwybodaeth

 

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i Bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

 

Os ceir cais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a gawsom gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Dogfennau ategol