Ymgynghoriad

Egwyddorion cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru).  

 

Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad yw i ystyried —

 

  • Egwyddorion cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru) a'r angen am ddeddfwriaeth yn y meysydd a ganlyn:
    • Y gofyniad i greu cynllun defnydd tir cenedlaethol, a elwir yn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol;
    • Creu Cynlluniau Datblygu Strategol i fynd i'r afael â materion trawsffiniol sy'n fwy na rhai lleol;
    • Newidiadau i weithdrefnau Cynlluniau Datblygu Lleol;
    • Ychwanegu at y gwaith ar ddechrau'r broses rheoli datblygu drwy wneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cyn ymgeisio;
    • Cyflwyno categori newydd o ddatblygiad, sef Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, sydd i'w penderfynu gan Weinidogion Cymru;
    • Symleiddio'r system rheoli datblygu;
    • Newidiadau i weithdrefnau gorfodi ac apelio; a
    • Newidiadau mewn perthynas â cheisiadau i gofrestru meysydd tref neu bentref.

 

  • Unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi'r darpariaethau hyn ar waith, ac a yw'r Bil yn eu hystyried;
  • Gwaith craffu cyn-deddfu y Pwyllgor ar y Bil Cynllunio (Cymru) Drafft ac i ba raddau y mae'r Bil diwygiedig yn ystyried argymhellion y Pwyllgor;
  • A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil;
  • Goblygiadau ariannol y Bil (fel y'u nodir yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol, sef yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, sy'n amcangyfrif y costau a'r buddion o roi'r Bil ar waith);
  • Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol, sy'n cynnwys tabl sy'n rhoi crynodeb o bwerau Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth).
  • Mesuradwyedd canlyniadau'r Bil; hynny yw, pa drefniadau sydd ar waith i fesur a dangos sut y caiff canlyniadau arfaethedig Llywodraeth Cymru eu cyflawni o ganlyniad i'r gyfraith hon.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau.

 

Byddwn yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod ail hanner tymor yr hydref 2014, felly byddai'n ddefnyddiol pe gallech nodi yn eich cais a fyddech yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar, os cewch wahoddiad i wneud hynny.

 

Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig, oherwydd ei bod yn arferol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor ar ein gwefan, er mwyn iddi ddod yn rhan o'r cofnod cyhoeddus. Rhowch wybod inni os oes gennych unrhyw wrthwynebiad inni gyhoeddi eich tystiolaeth. Gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fydd hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i SeneddAmgylch@Cynulliad.Cymru.

 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

 

Clerc y Pwyllgor,
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn dydd Gwener 7 Tachwedd 2014. Yn ddelfrydol, ni ddylai fod yn hirach na chwech tudalen A4, a dylid rhifo'r paragraffau a chyflwyno'r dystiolaeth mewn fformat Word. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Datgelu Gwybodaeth

 

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddAmgylch@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565