Ymgynghoriad

Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Roedd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau.

 

Fel rhan o'r ymchwiliad hwn roedd y Pwyllgor yn ystyried y meysydd canlynol:

 

  • effeithiau camddefnyddio alcohol a sylweddau ar bobl yng Nghymru, gan gynnwys pobl ifanc a myfyrwyr prifysgol; pobl hŷn; pobl ddigartref; a'r bobl yn nalfa'r heddlu neu mewn carchardai;
  • effeithiolrwydd polisïau presennol Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol a sylweddau ac unrhyw gamau pellach y gallai fod eu hangen;
  • pa wasanaethau sydd ar gael yn lleol ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth o effaith y niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol a sylweddau a chapasiti'r gwasanaethau hynny.

 

Cymorth a chefnogaeth

 

Os yw camddefnyddio alcohol neu sylweddau wedi cael effaith arnoch chi neu ar rywun rydych yn ei adnabod, neu os hoffech ragor o wybodaeth, gallwch gysylltu â DAN 24/7 i gael cyngor. Mae DAN 24/7 yn llinell gymorth gyfrinachol sydd ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un yng Nghymru sy'n dymuno cael gwybodaeth ychwanegol neu help mewn perthynas â chyffuriau neu alcohol.

 

Rhadffôn: 0808 808 2234

neu anfonwch neges destun i DAN: 81066

www.dan247.org.uk

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565