Ymgynghoriad
Ymchwiliad i Gyfranogiad yn y Celfyddydau
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 13 Chwefror 2012 a Dydd Gwener, 9 Mawrth 2012
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i
Gyfranogiad yn y Celfyddydau. Mae’r Pwyllgor wedi clywed pryderon gan nifer o
sefydliadau y gallai toriadau mewn cyllidebau yn y sector celfyddydau gael
effaith negyddol ar gyfranogiad yn y celfyddydau ymysg rhai grwpiau o bobl.
Felly, mae’r Pwyllgor wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i gynnal ymchwiliad byr i’r mater hwn. Bydd y Pwyllgor yn:
- asesu effaith toriadau mewn cyllidebau ar gyfranogiad yn y
celfyddydau yng Nghymru, yn arbennig a yw hyn wedi effeithio mwy ar rai
grwpiau o bobl nag eraill;
- canfod bylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer cyfranogiad yn y
celfyddydau, o ran demograffeg a daearyddiaeth;
- ystyried rôl y sector celfyddydau gwirfoddol o ran cyfranogiad yn y
celfyddydau ac edrych ar ffynonellau ariannu eraill;
- gwerthuso’r fframwaith polisi rhwng Llywodraeth Cymru a’r cyrff sy’n
dosbarthu arian i’r celfyddydau; ac
- ystyried a oes gan fudiadau celfyddydol yng Nghymru y modd o
ddarparu amcanion cydraddoldeb eu harianwyr.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Sarah Bartlett