Ymgynghoriad
Dyfodol Cyllido
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth, 5 Mai 2015 a Dydd Gwener, 5 Mehefin 2015
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- FIN(4) FF01 Ffederasiwn Busnesau Bach (Saesneg yn Unig) PDF 474 KB
- FIN(4) FF02 Prifysgolion Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 62 KB Gweld fel HTML (4) 15 KB
- FIN(4) FF03 Y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (Saesneg yn Unig) PDF 120 KB Gweld fel HTML (5) 68 KB
- FIN(4) FF04 NEA Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 614 KB Gweld fel HTML (6) 38 KB
- FIN(4) FF05 Ymateb y Gweinidog PDF 89 KB Gweld fel HTML (7) 34 KB
- FIN(4) FF06 Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (Saesneg yn Unig) PDF 881 KB
- FIN(4) FF06a Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid – Atodiad A (Saesneg yn unig) PDF 177 KB
- FIN(4) FF07 Llywodraeth yr Alban (Saesneg yn Unig) PDF 33 KB Gweld fel HTML (10) 9 KB
- FIN(4) FF07a Llywodraeth yr Alban – Atodiad A (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- FIN(4) FF07b Llywodraeth yr Alban – Atodiad B (Saesneg yn unig) PDF 3 MB
- FIN(4) FF07c Llywodraeth yr Alban – Atodiad C (Saesneg yn unig) PDF 4 MB
- FIN(4) FF08 Alan Trench (Saesneg yn Unig) PDF 104 KB Gweld fel HTML (14) 25 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor
Cyllid yn cynnal ymchwiliad i Ddyfodol Cyllido. Mae’r dadleuon ynghylch cyllid
teg i Gymru wedi cael eu nodi yn adroddiad Comisiwn Holtham yn 2010 ac adroddiad
Comisiwn Silk (Rhan 1) yn 2012, a bu datblygiadau mwy diweddar ledled y DU a
all effeithio ar setliad datganoli Cymru.
Mae ymchwiliad y Pwyllgor yn canolbwyntio ar:
- Y prif wendidau yn y setliad
ariannol i Gymru a sut y gellir mynd i’r afael â’r gwendidau hyn;
- Sut y gallai’r cytundeb
ynghylch model cadw pwerau i Gymru, a’r cynigion datganoli Ddydd Gŵyl
Dewi eraill, effeithio ar ddyfodol cyllido;
- Adolygu datblygiadau ar y
materion cydgyfeirio, tanariannu a diwygio Barnett a nodwyd yn adroddiadau
Holtham a Barnett;
- Y wybodaeth ariannol ac
economaidd sydd ei hangen ar Lywodraethau Cymru a’r DU er mwyn cefnogi
trefniadau cyllido yn y dyfodol.
Byddai’r Pwyllgor yn croesawu’ch sylwadau ar y canlynol:
- Beth yw’r prif wendidau yn y setliad ariannol presennol i Gymru?
- Sut y gellir mynd i’r afael â’r gwendidau hyn?
- Sut y bydd y newidiadau sydd ar y gweill mewn perthynas â:
- model cadw pwerau i Gymru, cynigion datganoli Ddydd Gŵyl Dewi ac
- argymhellion Comisiwn Smith,
- yn effeithio ar drefniadau cyllido Llywodraeth Cymru yn y dyfodol?
- Pa wybodaeth ariannol ac economaidd sydd ei hangen ar Lywodraethau
Cymru a’r DU er mwyn cefnogi trefniadau cyllido yn y dyfodol?
- A oes unrhyw faterion o ran datblygiadau ar y materion cydgyfeirio,
tanariannu a diwygio Barnett y dylai’r Pwyllgor fod yn ymwybodol ohonynt?
- Sut y gallai Llywodraeth y DU yn y dyfodol ymgorffori gofynion gan
Lywodraeth Cymru am ddull ariannu datganoledig sy’n seiliedig ar
anghenion?
- A ddylid penderfynu ar setliadau datganoli ariannol Cymru a’r
gweinyddiaethau datganoledig eraill mewn modd cydlynol neu fel cyfres o
gytundebau dwyochrog?
- Pa egwyddorion y dylid eu mabwysiadu i lywio’r broses o ddatganoli
pwerau cyllidol ymhellach mewn modd sy’n sicrhau tegwch a hyblygrwydd?
Gwahoddiad
i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r
Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Gymraeg neu yn Saesneg gan unigolion a
sefydliadau, a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.
Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen
A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion
uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu
tystiolaeth i bwyllgorau.
Datgelu gwybodaeth
Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael. Gofalwch eich bod yn ystyried y
manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cyllid (Pedwerydd Cynulliad)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565