Ymgynghoriad

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig i’w cael ar wefan y Cynulliad:

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=12573

Rhoddodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ddatganiad rhagarweiniol ar y Bil yn y cyfarfod llawn ar 5 Mai 2015. Gellir gweld cofnod y trafodion yn:

http://www.assembly.wales/en/bus-home/pages/rop.aspx?meetingid=3161&assembly=4&c=Record of Proceedings#214604 

Cylch gorchwyl

Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:

Ystyried—

  • egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i:
    • warchod adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig yn fwy effeithiol;
    • wella’r mecanweithiau presennol ar gyfer rheoli’r amgylchedd hanesyddol mewn modd cynaliadwy;
    • sicrhau bod penderfyniadau ynghylch yr amgylchedd hanesyddol yn cael eu gwneud mewn ffordd fwy tryloyw ac atebol.
  • unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r darpariaethau hyn ar waith, ac a yw’r Bil yn eu hystyried,
  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil,
  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol,
  • priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol).

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo’i waith o ystyried y Bil. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod i lunio eich ymateb. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau/cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr haf.

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 19 Mehefin 2015.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCCLLL@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565