Ymgynghoriad

Blaenoriaethau ar gyfer Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Diben yr ymgynghoriad

Sefydlwyd Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mehefin 2016.

 

Ein cylch gwaith yw archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd; trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth; sgiliau; a gwaith ymchwil a datblygu, gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth.

 

Ceir rhagor o fanylion am rolau a chyfrifoldebau ehangach pwyllgorau'r Cynulliad yn yr adroddiad, 'Pwyllgorau yn y Pumed Cynulliad' (PDF 256KB), a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 23 Mehefin 2016.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymgynghoriad

Er mwyn ei helpu i lywio'i flaenraglen waith, mae'r Pwyllgor am glywed beth yr ydych chi'n credu y dylai ei flaenoriaethau fod yn y Pumed Cynulliad.

 

Heb lenwi mwy na dwy ochr tudalen A4, nodwch y meysydd blaenoriaeth ar gyfer y pwyllgor, yn eich tyb chi, gan gynnwys unrhyw waith gan bwyllgorau blaenorol y Cynulliad y dylem ei adolygu neu ymgymryd â gwaith dilynol yn ei gylch. Dylid hefyd darllen y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau. Hoffai’r Pwyllgor gael ymatebion gan unigolion a sefydliadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg.

 

Byddwn yn llunio ein rhaglen waith yn nhymor hydref 2016, felly dyma ofyn am i bob awgrymiad ein cyrraedd erbyn 1 Medi 2016.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae gan y Cynulliad bolisi ar ddatgelu gwybodaeth. Dylech sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565