Ymgynghoriad
Ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 5 Mawrth 2012 a Dydd Mawrth, 17 Ebrill 2012
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Menter a
Busnes wedi cynnal ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru. Cylch
gorchwyl yr ymchwiliad oedd:
- a yw’r system
brentisiaethau gyfredol yn rhoi cymorth effeithiol i economi Cymru?
- a yw’r system
brentisiaethau gyfredol yn diwallu anghenion sgiliau cyflogwyr yng Nghymru
ar hyn o bryd, ac a fydd y system yn eu diwallu yn y dyfodol? Os na, pa
elfennau o’r system sydd angen eu gwella?
- gofio’r flaenoriaeth
gynyddol a roddir i brentisiaethau ar gyfer pobl sydd rhwng 16 a 24 oed, a
yw prentisiaethau’n ddewis atyniadol i bobl ifanc?
- a yw’r systemau ar gyfer
sefydlu Safonau a Fframweithiau Prentisiaeth ac ar gyfer recriwtio
prentisiaid yn gweithio’n effeithiol?
Materion allweddol
Mae’n bosibl y bydd y
Pwyllgor am ystyried y materion a ganlyn fel rhan o’r cylch gorchwyl:
- pa mor effeithiol yw
ymgysylltiad cyflogwyr â’r system brentisiaethau yng Nghymru? A yw hyn
wedi newid o ganlyniad i’r amgylchiadau economaidd presennol? A yw
cyflogwyr yn gallu dod o hyd i ddigon o bobl ifanc sydd â’r sgiliau a’r
doniau sydd eu hangen arnynt? A yw’r berthynas rhwng cyflogwyr a darparwyr
hyfforddiant yn un effeithiol? A yw prentisiaethau’n parhau i gael eu
cyfyngu i sectorau penodol?
- a yw mentrau cymdeithasol
yn gwneud defnydd effeithiol o brentisiaethau?
- a yw nifer y prentisiaid
sy’n cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol, a’r sector cyhoeddus yn
gyffredinol, wedi cynyddu neu wedi gostwng? A ddylai’r sector cyhoeddus
recriwtio mwy o brentisiaid?
- mae Llywodraeth Cymru yn
hyrwyddo’r defnydd o gymalau Budd i’r Gymuned mewn contractau sector
cyhoeddus, sef cymalau y gellir eu defnyddio i hyrwyddo’r arfer o gyflogi
hyfforddeion a phrentisiaid. A yw hwn yn ddull effeithiol o gynyddu nifer
y prentisiaid?
- beth yw proffil cyffredinol
prentis o ran oedran, rhyw a sector cyflogaeth, er enghraifft? A yw’r
proffil hwn yn newid ac, os ydyw, beth yw’r rhesymau dros hyn? Yn ôl
adroddiad gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, oed prentis ar
gyfartaledd yw 26. Beth yw'r rhesymau dros hyn? A yw prentisiaethau’n
llwyddiannus, yn gyffredinol, o safbwynt prentisiaid? A yw’r gyfradd o
brentisiaethau sy’n cael eu cwblhau wedi newid yn ystod y blynyddoedd
diwethaf? Yn ymarferol, a roddir sicrwydd i brentisiaid y byddant yn cael
swydd ar ddiwedd eu prentisiaeth?
- a yw Gyrfa Cymru a’r
Ganolfan Byd Gwaith yn rhoi cymorth effeithiol i bobl sydd am ddod o hyd i
brentisiaethau? A yw’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau, sef gwasanaeth
newydd sy’n cael ei gynnig gan Gyrfa Cymru, yn effeithiol?
- pam mae pobl ifanc yn
dewis bod yn brentisiaid? Pa ffactorau sy’n dylanwadu ar eu penderfyniad?
- a yw prentisiaethau yn
ddewis atyniadol i bobl o bob gallu, neu a ydynt yn cael eu hystyried yn
ddewis eilradd o gymharu â dilyn cwrs addysg uwch? A yw agweddau’n newid,
ac os felly, beth yw’r rhesymau dros hyn?
- a yw’r bobl sydd â’r
dylanwad mwyaf ar ddewisiadau pobl ifanc, fel rhieni/gofalwyr, athrawon
gyrfaoedd mewn ysgolion, ac athrawon yn gyffredinol, yn deall y system
brentisiaethau yn llawn? A yw’r system yn rhy gymhleth, ac a oes gormod o
ddewis o ran rhaglenni?
- pa mor effeithiol yw
polisïau Llywodraeth Cymru ar brentisiaethau? Sut y mae’r polisïau hyn yn
cydblethu a’i strategaethau ehangach ar yr economi a sgiliau?
- mae addysg a
hyfforddiant, gan gynnwys prentisiaethau, yn faterion datganoledig, ond
nid yw cyfreithiau sy’n ymwneud â chyflogaeth wedi’u datganoli. A oes gan
bobl ifanc hawliau a mynediad digonol o ran cael hyfforddiant fel
prentisiaid? Os na, sut y gellir gwella’r sefyllfa hon?
- a yw’r Cynghorau Sgiliau
Sector yn hyrwyddo a chefnogi prentisiaethau mewn modd effeithiol? Sut y
mae capasiti’r cynghorau yn effeithio ar eu perfformiad yn y maes hwn?
- a yw cyllid Ewropeaidd yn
cael ei ddefnyddio’n effeithiol er mwyn cefnogi prentisiaethau?
- a oes enghreifftiau o
arfer da o ran gweithredu systemau prentisiaeth mewn gwledydd eraill y
gallai Cymru ddysgu ohonynt?
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Siân Phipps - Committees
Y Pwyllgor Menter a Busnes
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA