Ymgynghoriad

Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cynnal ymchwiliad i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol arfaethedig Llywodraeth Cymru.

 

Graffig sy’n dangos cyfnod yr ymgynghoriad: 17 Tachwedd am dair wythnos

 

Crynodeb

Nod yr ymchwiliad fydd darparu eglurder i randdeiliaid ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu’r Comisiwn Seilwaith, i ddylanwadu ar ddatblygiad polisi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, ac i wneud argymhellion ystyrlon i’r Llywodraeth.

 

Cefndir

Lansiodd Llywodraeth Cymru ei dogfen ymgynghori - Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru - ar 17 Hydref 2016. Mae’n nodi cynnig i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru o fewn y 12 mis nesaf, ac yn gofyn cyfres o gwestiynau.

 

Bydd y Comisiwn yn darparu cyngor arbenigol a thechnegol ar strategaeth hirdymor ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith economaidd, a hynny gan edrych hyd at 30 mlynedd i’r dyfodol, ond gan beidio ag ail-edrych ar benderfyniadau a wnaed eisoes. Bydd angen iddo ystyried argymhellion cyrff eraill sydd â rôl statudol o ran y seilwaith, a bydd yn gweithio mewn ffordd sy’n ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am farn ynghylch:

  • Beth ddylai rôl, cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn fod;
  • Sut y dylai’r Comisiwn weithredu, a pha fethodolegau y dylai eu mabwysiadu ar gyfer cynnal ei waith;
  • Sut y dylai’r Comisiwn gael ei lywodraethu a’i ariannu i sicrhau ei fod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru;
  • Enghreifftiau o arfer gorau yn y DU ac yn rhyngwladol y gallai’r Comisiwn ddysgu oddi wrthynt;
  • Sut y dylai gwaith y Comisiwn ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant  Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;
  • Sut, ac i ba raddau, y dylai gwaith y Comisiwn ddylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru a’i blaenoriaethau o ran prosiectau seilwaith;
  • Sut y dylai gwaith y Comisiwn ryngweithio â blaenoriaethau seilwaith rhanbarthol a Bargeinion Dinesig / Bargeinion Twf; a
  • Pha berthynas y dylai’r Comisiwn ei chael â Chomisiwn Llywodraeth y DU ar faterion trawsffiniol a seilwaith mewn meysydd sydd wedi’u datganoli’n rhannol.

 

Tystiolaeth

Gofynnodd y pwyllgor am dystiolaeth gan amrywiaeth o arbenigwyr, yng Nghymru a thu hwnt.

 

Roeddem yn awyddus i glywed gan y sectorau peirianneg ac adeiladu, gan fusnesau, y sector amgylcheddol, gan y comisiynau seilwaith yn y DU ac yn rhyngwladol, a chan lywodraeth leol.

 

Yn ogystal â’r sesiynau tystiolaeth ffurfiol a ddechreuodd ar 17 Tachwedd 2016, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad trafod anffurfiol â rhanddeiliaid i gasglu rhagor o safbwyntiau.

 

Darparu tystiolaeth ysgrifenedig

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau ysgrifenedig yn Gymraeg neu Saesneg, ac yn gofyn i sefydliadau â pholisïau neu gynlluniau Iaith Gymraeg i ddarparu cyflwyniadau dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth i’r cyhoedd.

 

Ni ddylai cyflwyniadau fod yn hwy na phum ochr o A4, â pharagraffau wedi’u rhifo, a dylent ganolbwyntio ar faterion a nodwyd uchod. Gweler y canllawiau i rai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau.

 

Anfonwch eich sylwadau at: Senedd@cynulliad.cymru erbyn 30 Tachwedd 2016. Efallai na fydd yn bosibl ystyried ymatebion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn

 

Datgelu gwybodaeth

Sicrhewch eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad ar ddatgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565