Ymgynghoriad

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:

  • beth a fu'n llwyddiant a beth na fu'n llwyddiant i'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf;
  • sut y bydd awdurdodau lleol yn penderfynu pa brosiectau a fydd yn parhau i dderbyn cyllid ar ôl mis Mehefin 2017; a
  • sut y bydd gwahanol raglenni lleihau tlodi (Cymunedau am Waith, Esgyn, Dechrau'n Deg, ac ati) yn newid ar ôl i Gymunedau yn Gyntaf ddod i ben.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael yma; gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Dogfennau ategol