Ymgynghoriad

Gwella Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc ('Cadernid Meddwl')

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Trafododd y  Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a yw'r adolygiad o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed – y 'Rhaglen Wella Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc' – ar y trywydd iawn i gyflawni'r 'newid sylweddol' sydd ei angen i'r gwasanaethau hyn. Ystyriodd ymchwiliad y Pwyllgor:

  • CAMHS Arbenigol
  • Cyllid
  • Pontio i Wasanaethau Oedolion
  • Cysylltiadau ag Addysg (deallusrwydd emosiynol a dulliau ymdopi iach)

 

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law fel rhan o'r ymchwiliad hwn yng nghyd-destun y gwaith o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

 

Ymrwymodd y Pwyllgor i gynnwys plant a phobl ifanc yn ei waith. Roedd yr ymchwiliad hwn yn sicrhau bod barn a phrofiadau plant a phobl ifanc, eu teuluoedd a’u hymarferwyr yn cael eu dal mewn ffordd ddefnyddiol, sensitif ac adeiladol.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565