Ymgynghoriad

Tai carbon isel: yr her

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cylch gorchwyl

Asesu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyflawni hyd yma o safbwynt tai carbon isel ac ystyried yr hyn sydd angen ei wneud i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn llwyddo yn ei hymrwymiadau i gyflawni targedau o ran arbed ynni a lleihau allyriadau. Byddwn yn edrych ar:

  • Y cyfraniad y gall tai ei wneud wrth i Gymru bontio i economi rhad ar garbon, gan gynnwys yr effeithiau cadarnhaol posibl ar allyriadau nwyon tŷ gwydr;
  • Datblygiad y dechnoleg sydd ei hangen ar gyfer tai sy'n defnyddio ynni'n effeithlon iawn, ac i ba raddau y mae'r dechnoleg honno ar gael;
  • Y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod y stoc dai bresennol yn defnyddio ynni mor effeithlon ag y bo modd;
  • A yw'n bosibl ac yn ymarferol darparu tai fforddiadwy ar raddfa fawr yng Nghymru a'r rheiny'n effeithlon iawn o ran carbon ac yn cynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio ac, os felly, sut y gellir cyflawni hyn;
  • Y ffactorau sy'n rhwystr rhag cyflwyno newid trawsnewidiol ym maes adeiladu tai yng Nghymru;
  • Rôl Ofgem a'r grid cenedlaethol o ran galluogi'r grid i esblygu i ddarparu ar gyfer mathau newydd o dai, a'r heriau a gyflwynir wrth i ynni gael ei gyflenwi o ffynonellau wedi'u datganoli;
  • A oes gan Gymru'r sgiliau angenrheidiol i hwyluso a galluogi newid yn y sector tai;
  • Y newidiadau y mae angen eu gwneud i Reoliadau Adeiladu yng Nghymru er mwyn symud yn gyflymach tuag at safonau ynni lle y cynhyrchir bron ddim carbon, a thu hwnt i hynny;
  • Sut y gellir cynllunio a siapio cymunedau i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon a chynhyrchu llai o garbon (gan gynnwys enghreifftiau o arfer da yng Nghymru a thu hwnt). 

Y cefndir

Mae gan y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig gylch gorchwyl i graffu ar wariant Llywodraeth Cymru ar newid yn yr hinsawdd; ynni; rheoli adnoddau naturiol; cynllunio; lles anifeiliaid ac amaethyddiaeth; ac ar y modd y mae'n gweithredu polisi yn y meysydd hyn. Cynhaliodd y Pwyllgor a'n rhagflaenodd yn y Pedwerydd Cynulliad ymchwiliad i 'Ddyfodol Ynni Craffach i Gymru'. Gwnaeth nifer o argymhellion yn ymwneud â thai a rheoliadau adeiladu, gan gynnwys y ddau a ganlyn:

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru ddiwygio'r Rheoliadau Adeiladu ar frys i sicrhau bod tai newydd yn cael eu hadeiladu i safonau ynni 'agos at sero'.
  • Rhaid i Gymru, ar ôl cwblhau'r treial eang llwyddiannus o gartrefi o fath SOLCER (arbed carbon a chynhyrchu mwy o ynni nag a ddefnyddir), ddechrau ymestyn ei gofynion effeithlonrwydd ynni ar gyfer cartrefi newydd y tu hwnt i garbon 'agos at sero' i lefel o effeithlonrwydd lle y cynhyrchir ynni dros ben.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru y ddau argymhelliad.

Hoffai'r Pwyllgor ailedrych ar y ddau argymhelliad hyn yn benodol, a chynnal ymchwiliad â'r bwriad o gyfrannu at ddatblygiad polisi yn y maes hwn.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor..

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565