Ymgynghoriad

Newyddiaduraeth Newyddion yng Nghymru: Dyraniad cyllideb arfaethedig Llywodraeth Cymru o £100,000 y flwyddyn.

Diben yr ymgynghoriad

Fe wnaeth Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu edrych ar Newyddiaduraeth Newyddion yng Nghymru ac mae wedi cymryd tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar dros y misoedd diwethaf.

 

Cyn cwblhau’r adroddiad ar Newyddiaduraeth Newyddion yng Nghymru, gofynnodd y Pwyllgor am sylwadau ar ddyraniad cyllideb arfaethedig Llywodraeth Cymru o £100,000 y flwyddyn yn 2018-19 a 2019-20 ar gyfer "grantiau cychwyn i newyddiadurwyr sy'n dymuno sefydlu eu busnes eu hunain mewn newyddion hyperleol".

 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd eto wedi cytuno’n derfynol ar y manylion ynghylch sut y caiff yr arian hwn ei ddefnyddio, a gwahoddodd y Pwyllgor i gyflwyno argymhellion.

 

Felly, ceisiodd y Pwyllgor farn am y canlynol:

 

·      Sut y gellid defnyddio'r arian hwn orau;

·      A yw hwn yn swm digonol o arian i wneud gwahaniaeth i ddarpariaeth newyddiaduraeth newyddion o safon yng Nghymru.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau i'r ymarfer hwn oedd 17:00  ddydd Gwener 10 Tachwedd.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddDGCh@@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565