Ymgynghoriad

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru. Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar y Rhaglen Cefnogi Pobl ar 31 Awst 2017, ac  mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol.

Mae’r Pwyllgor yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion ei chynlluniau cyllideb wedi creu rhywfaint o ansicrwydd ynghylch sut y bydd y cyllid Cefnogi Pobl yn cael ei reoli yn y dyfodol, a chaiff hyn ei ystyried fel rhan o waith y Pwyllgor.

Bydd yr ymchwiliad yn ystyried dulliau llywodraethu cyffredinol a rheolaeth y Rhaglen Cefnogi Pobl. Nid oes gan y Pwyllgor rôl o ran craffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ond gall ystyried y modd y gweithredir newidiadau cyllidebol a’u heffaith.

Er mwyn helpu gyda’i ymchwiliad, byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y materion a ganlyn:

  • Effaith datblygiadau polisi ehangach ar y rhaglen, gan gynnwys:
    • The overall clarity of the Programme’s objectives;
    • Eglurder cyffredinol amcanion y Rhaglen;
    • Goblygiadau adolygiad Llety â Chymorth Llywodraeth y DU, a’r ymateb sy’n dod i’r amlwg iddo;
    • Sut y gallai Llywodraeth Cymru wella ei dulliau cyfathrebu ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer y Rhaglen ac effaith datblygiadau ehangach;
    • Beth fyddai’r ffordd orau i alinio gwaith y Pwyllgorau Cydweithredol Rhanbarthol gyda threfniadau llywodraethu cydweithredol eraill;
    • Y gwersi i’w dysgu yn sgîl effeithiolrwydd cymysg gwaith rhanbarthol dros y pum mlynedd diwethaf a’i effaith;
    • I ba raddau y mae’r trefniadau llywodraethu a rheoli ar gyfer y Rhaglen yn adlewyrchu ffyrdd o weithio a ddisgwylir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
  • Monitro a gwerthuso
    • Sut y defnyddir data monitro / canlyniadau i lywio’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch gwariant ar y rhaglen ac i fonitro contractau;
    • Y fframwaith canlyniadau diwygiedig y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig, ac i ba raddau y bydd yn mynd i’r afael â chyfyngiadau’r fframwaith presennol;
    • Beth yw’r ffordd orau i gyfleu unrhyw drefniadau fframwaith canlyniadau diwygiedig a’u rhoi ar waith;
    • Cyfleoedd eraill i gryfhau dulliau monitro a gwerthuso, gan gynnwys wrth asesu gwerth cymharol am arian gwasanaethau cymaradwy.
  • Dosbarthiad cyllid y Rhaglen, a chynllunio ariannol gan gynnwys:
    • Y materion y mae angen eu hystyried wrth ddatblygu a gweithredu unrhyw fformiwla ariannu newydd;
    • Sut y mae pwysau o ran y gyllideb ac ansicrwydd cyllido wedi effeithio ar gynllunio gwasanaethau a’u darparu;
    • Y rhesymau dros yr amrywiad eang a nodwyd o ran cymorth ariannol i wahanol grwpiau cleientiaid ar draws awdurdodau lleol;
    • Y rhesymau dros y newid amlwg yng nghyfran gyffredinol cronfeydd y rhaglen a wariwyd ar gefnogaeth symudol a chefnogaeth sefydlog;
    • I ba raddau y mae prosesau a gwariant ar gynllunio lleol a rhanbarthol yn adlewyrchu anghenion y mae tystiolaeth helaeth amdanynt, yn hytrach na phatrymau hanesyddol.

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 22 Rhagfyr 2017.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad (1MB), mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyfrifion Cyhoeddus
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddArchwilio@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565