Ymgynghoriad
Creu Senedd i Gymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 12 Chwefror 2018 a Dydd Gwener, 6 Ebrill 2018
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Consultation results
- Adroddiad llawn yr ymgynghoriad (PDF 1.1MB) PDF 2 MB
- Adroddiad hawdd ei ddarllen yr ymgynghoriad (PDF 1.78MB) PDF 2 MB
- Crynodob o'r prif ganfyddiadau (PDF 1.84MB)
- Datganiad ysgrifenedig y Llywydd, Gorfennaf 2018 (PDF 238KB)
- Datganiad ysgrifenedig y Llywydd, Hydref 2018 (240kb)
Diben yr ymgynghoriad
Roedd Comisiwn
y Cynulliad yn awyddus i glywed barn ar sut y gellid newid trefniadau
etholiadol, gweithredol a mewnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Deddf Cymru
2017 yn nodi dechrau cyfnod newydd o ddatganoli yng Nghymru. Mae’n rhoi
pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros feysydd polisi newydd, gan gynnwys
maint y Cynulliad, ei system etholiadol a'i drefniadau mewnol.
Cyhoeddodd y Panel
Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ei adroddiad ym mis Rhagfyr
2017: Senedd
sy'n Gweithio i Gymru. Bu'r Panel yn ystyried capasiti'r Cynulliad i
gyflawni ar gyfer pobl Cymru, a daeth i'r casgliad fod y Cynulliad, gyda dim
ond 60 Aelod, yn rhy fach i gyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol. Bu'r Panel
yn ystyried hefyd sut y dylid ethol yr Aelodau, a'r oedran pleidleisio isaf ar
gyfer etholiadau'r Cynulliad.
Roedd Comisiwn y Cynulliad yn gofyn am farn ar
argymhellion y Panel Arbenigol, ac ar ddiwygiadau eraill i drefniadau
etholiadol a gweithredol y Cynulliad a allai wneud y sefydliad yn ddeddfwrfa
fwy hygyrch ac effeithiol.
Cwestiynau
cyffredin
Cewch ragor o wybodaeth am yr ymgynghoriad hwn a gwaith
diwygio Comisiwn y Cynulliad ar ein cwestiynau
cyffredin.
Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd ymgynghori i roi cyfle i’r
cyhoedd holi Elin Jones AC, y Llywydd.
- 12/03/2018, Prifysgol Abertawe
- 15/03/2018, Prifysgol Aberystwyth
- 22/03/2018, Prifysgol Bangor
- 23/03/18, Ramada Plaza, Wrecsam
Sut i
ymateb i’r ymgynghoriad hwn
Roedd gwahanol ffyrdd o roi sylwadau i Gomisiwn y
Cynulliad am y diwygiadau posibl:
- Drwy fynd i ficrowefan yr ymgynghoriad
a llenwi arolwg ar-lein.
- Drwy ddarllen y ddogfen
ymgynghori neu’r fersiwn
hawdd ei darllen, llenwi’r ffurflen ymateb
neu’r fersiwn hawdd ei darllen a’i e-bostio neu ei phostio.
Canlyniadau’r
ymgynghoriad
Cyhoeddwyd adroddiad
llawn yr ymgynghoriad, yn ogystal ag adroddiad
cryno a fersiwn
hawdd ei darllen. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar brif
dudalen diwygio'r Cynulliad.
Cofrestrwch i dderbyn
diweddariadau e-bost am waith diwygio Comisiwn y Cynulliad.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith
swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg. Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae Comisiwn y Cynulliad yn gofyn i
ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgyngoriadau y bwriedir eu cyhoeddi
neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn
ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn
ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod
wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig. Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill
weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u
rhwymedigaethau statudol.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i Gomisiwn y
Cynulliad.
Dogfennau ategol
- Dogfen Ymgynghori
- Ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad
- Cwestiynau cyffredin
- Hawdd ei darllen
- Dogfen ymhynghori - fersiwn hawdd ei darllen
- Ffurflen ymateb i'r ymynghoriad - fersiwn hawdd ei darllen
- Digwyddiadau
- Cyflwyniad digwyddiadau PDF 983 KB
- Ffideo y Digwyddiadau
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Ysgrifenyddiaeth Comisiwn y Cynulliad
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Email: ComisiwnyCynulliad.Ymgynghori@cynulliad.cymru
Ffôn: 0300 200 6565